Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
 


192(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU - Tynnywd yn ôl

(0 munud)

NDM8492 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod hyblygrwydd cyllidol Llywodraeth Cymru yn annigonol ac yn cyfyngu ar ei gallu i fynd i’r afael â’r pwysau a’r ansicrwydd digynsail sy’n wynebu Cymru, gan gynnwys ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.  

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar benderfyniadau ac amseru Llywodraeth y DU, a bod angen gallu rhagfynegi’n well drefniadau ariannu Llywodraeth Cymru, ac angen mwy o sicrwydd amdanynt, i gefnogi ei phroses cynllunio’r gyllideb a phroses cynllunio’r gyllideb ei sefydliadau partner, gan gynnwys yr awdurdodau lleol.

3. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a’i therfynau benthyca yr un fath ag yr oeddent pan gawsant eu gosod yn 2016 ac, yn 2024-25, bydd eu gwerth 23% yn llai mewn termau real na phan gawsant eu cyflwyno yn 2018-19.

4. Yn nodi’r diffyg tegwch a chysondeb sy’n gysylltiedig â phenderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â’r hyblygrwydd cyllid ar gyfer y llywodraethau datganoledig, a bod trefniadau Llywodraeth Cymru yn sylweddol llai hael na rhai’r Alban a’i threfniadau benthyca cyfalaf yn llawer llai na hael na rhai Gogledd Iwerddon.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er mwyn rheoli’r gyllideb yn effeithiol, gan ei galluogi i fuddsoddi mwy a chyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru, gan gynnwys mynd ati ar unwaith i:

a) fynegeio terfynau benthyca a chronfa wrth gefn gyffredinol Llywodraeth Cymru yn ôl chwyddiant; a

b) diddymu’r cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru i dynnu symiau wrth gefn i lawr.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig.

2. Yn nodi nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn ddigonol.

3. Yn cydnabod yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio sefydliadau partner.

4. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un fath â phan gawsant eu gosod yn 2016.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith:

a) gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn yn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad blynyddol; a

b) diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. 

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol San Steffan wedi arwain at biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r anallu i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y Goron.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

adolygu Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar draws setliad cyllidol ac ariannol cyfredol Cymru;

Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

cynyddu terfynau benthyca cyfalaf;

Gwelliant 5 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y cyd ffyrdd newydd o ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol Llywodraeth Cymru, a'u heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa Gyllideb Seneddol.

</AI4>

<AI5>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

 

NNDM8498 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a 12.22 (i) dros dro er mwyn caniatáu i NNDM8497 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 27 Chwefror 2024.

</AI5>

<AI6>

4       Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU

(60 munud)

NNDM8497 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig.

2. Yn credu nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn ddigonol.

3. Yn nodi yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio sefydliadau partner.

4. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un fath â phan gawsant eu gosod yn 2016.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith:

a) mynd i'r afael ag effaith chwyddiant ar derfynau benthyca a’r gronfa wrth gefn ers 2016;

b) gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad blynyddol; ac

c) diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn.

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol San Steffan wedi arwain at biliynau o arian sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r anallu i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y Goron.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

disodli Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar draws setliad cyllidol a chyllid cyfredol Cymru gyda system newydd sy’n symud oddi wrth ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus ad-hoc a thuag at fframwaith sy’n darparu cyllid cyson, tryloyw a theg i Gymru;

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

cynyddu terfynau benthyca cyfalaf;

Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y cyd ffyrdd newydd o ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol Llywodraeth Cymru, a'u heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa Gyllideb Seneddol.

Gwelliant 5 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru.

</AI6>

<AI7>

5       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

(15 munud)

NDM8490 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn ‌y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

‌Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI7>

<AI8>

6       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datganiad Polisi ar Brentisiaethau

(30 munud)

</AI8>

<AI9>

7       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc - Gohiriwyd

(0 munud)

</AI9>

<AI10>

8       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+

(30 munud)

</AI10>

<AI11>

9       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd - Gohiriwyd tan 12 Mawrth

(0 munud)

</AI11>

<AI12>

10    Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

(30 munud)

</AI12>

<AI13>

11    Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024

(15 munud)

NDM8491 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol a Amrywiol) 2024 yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2024.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI13>

<AI14>

12    Cyfnod pleidleisio

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 28 Chwefror 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>